2014 Rhif 890 (Cy. 88)

Archwilio cyhoeddus, cymru

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

 Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (“CIPFA”) a Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (“CIMA”) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion adran 19(9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). 

 O ganlyniad i hyn, bydd CIPFA a CIMA ill dau yn dod o fewn y diffiniad o “corff cyfrifyddu” yn adran 19(9) o'r Ddeddf. Mae adran 19(4) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Swyddfa Archwilio Cymru wneud trefniadau gydag unrhyw gorff o’r fath i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i'w gilydd neu wneud trefniadau i’r corff hwnnw ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gydweithredu â'i gilydd, a rhoi cymorth i'w gilydd.

 Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

 


2014 Rhif 890 (Cy. 88)

Archwilio cyhoeddus, cymru

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014

Gwnaed                                    1 Ebrill 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2 Ebrill 2014

Yn dod i rym                           23 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 19(9) a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014 a daw i rym ar 23 Ebrill 2014.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran  Cymru.

Corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy

2.(1) Mae pob un o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion adran 19(9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(2) Dyma'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)     y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a

(b)     Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.

Jane Hutt

 

Y Gweinidog Cyllid, un o Weinidogion Cymru

 

1 Ebrill 2014

 



([1])           2013 dccc 3.